Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint

Tudalen Gartref

Diolch am ymweld â’n gwefan i ddysgu mwy am y cynlluniau ar gyfer Porth Glannau Dyfrdwy.

Mae Pochin Goodman (Northern Gateway) Ltd yn cyflwyno gofod cyflogaeth newydd ar dir i’r Gogledd o Afon Dyfrdwy. Bydd y cynlluniau yn dod â buddsoddiad sylweddol i Lannau Dyfrdwy, gan ddarparu swyddi newydd a rhoi hwb i’r economi leol.

Cyn cyflwyno cais cynllunio i Gyngor Sir y Fflint, rydym ni am glywed eich barn ac rydym yn cynnal ymgynghoriad cymunedol ar ein gweledigaeth ar gyfer y safle. Gallwch ddysgu mwy am y cynigion, gweld ein harddangosfa gyhoeddus rithwir a rhoi eich adborth.

Fel rhan o’r ymgynghoriad, rydym ni wedi sicrhau bod yr holl ddogfennau cynllunio ar gael i’w hadolygu. Mae’r rhain yn dangos y gwaith technegol a wnaed wrth baratoi’r cais cynllunio ac yn dangos y manylion a aseswyd wrth ystyried sut i sicrhau manteision i’r gymuned leol a’r rhanbarth ehangach. Gallwch weld y rhain yma

 

Map safle ffin llinell goch (Cliciwch i fwyhau)

Cyflawni ar gyfer Sir y Fflint

Bydd ein cynlluniau yn creu nifer o fanteision, gan gynnwys:

Dros 1,000 o swyddi newydd ar y safle

Mwy o swyddi yn cael eu creu yn ystod y cyfnod adeiladu ac yn cael eu cefnogi o fewn y gadwyn gyflenwi o ganlyniad i fwy o wariant gan weithwyr a deiliaid

Buddsoddiad sylweddol yn economi leol Sir y Fflint a thua £2.8 miliwn o ardrethi busnes ychwanegol bob blwyddyn er budd gwasanaethau cyhoeddus lleol

Gofod cyflogaeth cynaliadwy o ansawdd uchel sy’n helpu busnesau i leihau’r defnydd o ynni a lleihau allyriadau carbon

Ardaloedd newydd wedi’u tirlunio gan gynnwys plannu coed a chreu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt

Mae safle ehangach Porth y Gogledd eisoes yn dod â manteision i’r ardal leol a’r rhanbarth ehangach. Mae gan Porth Glannau Dyfrdwy gyfle i adeiladu ar hyn a darparu hyd yn oed mwy o fanteision i’r gymuned.

Ein Cynigion

Bydd y cais cynllunio yn gofyn am ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer 103,200 metr sgwâr o ofod cyflogaeth dros bum uned ar gyfer cymysgedd o ddefnyddiau diwydiannol, storio a dosbarthu.

Yn ogystal â’r manteision economaidd a restrir uchod, mae’r cynigion yn cynnwys:

  • Pum uned newydd:
    • Uned 1 — 36,789 metr sgwâr
    • Uned 2a — 5,479 metr sgwâr
    • Uned 2b — 10,901 metr sgwâr
    • Uned 3 — 3,627 metr sgwâr
    • Uned 4 — 46,439 metr sgwâr
  • 1,184 o leoedd parcio, gan gynnwys 65 o leoedd hygyrch, ar draws y pum uned
  • Seilwaith i gefnogi’r defnydd o gerbydau trydan, gyda 128 o leoedd wedi’u nodi ar gyfer gwefru cerbydau trydan
  • Annog teithio cynaliadwy, gyda’r safle’n elwa ar gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys gorsafoedd trenau Pont Penarlâg a Shotton a nifer o wasanaethau bws lleol, gan gynnwys Llwybrau Rhifau 5, 8, D1 a 10/10A
  • Dyluniad ansawdd uchel ar gyfer yr unedau, gan gynnwys defnyddio cladin proffil wedi’i osod yn fertigol mewn llwyd golau a llwyd canolig i dorri ar y ymddangosiad gweledol a dyluniadau toi crwm deniadol i ychwanegu diddordeb
  • Tirlunio helaeth o amgylch y safle, gan gynnwys sgrinio a phlannu byffer o amgylch ffiniau’r safle. Bydd hyn yn cynnwys plannu dryslwyn a choed i gynyddu bioamrywiaeth
  • Plannu tirwedd o fewn lleiniau unigol, gan gynnwys planhigion brodorol ac addurnol i ddarparu amgylchedd braf a gwella lles staff ac ymwelwyr
Prif Gynllun Safle (Cliciwch i fwyhau)

Ystyriaethau

Wrth ddatblygu ein cynigion, rydym ni wedi ystyried y safle a’r ardal leol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am bob un o’r agweddau hyn isod:

Dyluniad

Mae’r safle i’r de o Ystâd Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy a bydd ger y safle ICT sydd ar ddod i’r gogledd. Mae wedi’i ddyrannu ar gyfer defnydd cyflogaeth ac ymgysylltwyd â Chyngor Sir y Fflint cyn ymgeisio i lunio’r cynnig a darparu dyluniad o ansawdd uchel.

Bydd yr unedau’n cynnwys ffurfiau to crwm er mwyn ychwanegu diddordeb gweledol. Bydd y datblygwyr hefyd yn defnyddio technegau cladin â phroffil sydd wedi’u gosod yn fertigol gydag amrywiad mewn arlliwiau llwyd golau a llwyd canolig i dorri ar raddfa pob adeilad.

Gallwch ddarllen mwy am elfen ddylunio’r cynllun yn y Datganiad Dylunio a Mynediad, yma.

Trafnidiaeth a Mynediad

Fel rhan o’r broses ddatblygu, byddwn yn darparu 2m o droedffyrdd ar ddwy ochr y rhwydwaith ffyrdd ystâd newydd er mwyn sicrhau diogelwch i gerddwyr sy’n symud rhwng unedau a thrwy’r safle. Bydd hyn hefyd yn cynnwys mannau croesi, gan ymgorffori ymlfeini isel ar gyfer croesi ffyrdd mewnol yn ddiogel.

Ar gyfer cerbydau, cynigir mynediad i’r safle drwy Spine Road newydd sy’n cael ei darparu gan Lywodraeth Cymru.

Bydd darpariaeth hefyd yn cael ei gwneud ar gyfer mynediad i feiciau gan gynnwys parcio beiciau dan do ar gyfer pob uned newydd.

Bydd y cynlluniau’n cynnwys 1,184 o leoedd parcio, a bydd 65 ohonynt yn fannau hygyrch. Bydd y mannau hyn hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer gwefru gan 128 o gerbydau trydan ar draws y safle.

Gallwch weld yr Asesiad Trafnidiaeth drwy glicio yma a’r Cynllun Teithio drwy glicio yma.

Llifogydd

Dosberthir y safle fel Parth Llifogydd C1, sy’n ymwneud ag ardaloedd o’r gorlifdir sy’n cael eu datblygu a’u gwasanaethu gan seilwaith sylweddol gan gynnwys amddiffynfeydd rhag llifogydd. Mae’r nodweddion dŵr presennol i’w hystyried yn cynnwys Afon Dyfrdwy a Nant Shotwick.

Mae peirianwyr arbenigol wedi llunio cynllun arfaethedig y safle a’r manylion draenio i sicrhau bod y datblygiad newydd yn cyd-fynd â pholisïau mewn perthynas â pherygl llifogydd ac na fyddai’n cynyddu’r perygl llifogydd i dir cyfagos.

Gallwch ddarllen mwy am ein hymagwedd yn yr Asesiad Canlyniad Llifogydd trwy glicio yma.

Gallwch weld ein Strategaeth Ddraenio yma.

Ecoleg

Fel rhan o’r cais cynllunio, rydym ni wedi cynnal asesiad manwl o ecoleg leol. Mae hyn hefyd wedi cael ei ystyried ochr yn ochr â gweithredu’r Fframwaith Strategaeth Lliniaru Ecolegol ar draws y safle a sicrhawyd yn flaenorol ac a oedd yn cwmpasu holl Ddatblygiad Porth y Gogledd.

Mae’r cynigion hyn yn unol â pholisi cynllunio lleol. Gallwch ddarllen yr Adroddiad Asesiad Ecolegol yma. 

Coed a Thirlunio

Bydd coed presennol ar y safle yn cael eu cadw lle bynnag y bo modd, gan gynnwys rhodfa Gwern a phoplys Lombardi ar y ffin ddeheuol. Mae’r cynigion hefyd yn cynnwys sgrinio’r dirwedd a phlannu byffer o amgylch y ffiniau. Ar hyd prif ffyrdd y seilwaith, cynigir llwybrau o goed gyda gwrychoedd brodorol o rywogaethau cymysg yn cael eu plannu ar hyd y ffiniau wedi’u ffensio i feysydd parcio a mannau gwasanaeth.

Sŵn ac Aer

Fel rhan o’r gweithgarwch monitro, rydym ni wedi asesu’r lefelau sŵn gweithredol a ragwelir a’r potensial ar gyfer effeithiau ar yr eiddo preswyl yn y dyfodol ar y tir i’r dwyrain. Nid yw’r lefelau sŵn gweithredol a aseswyd yn uwch na’r lefelau cefndir presennol ac felly ystyrir eu bod yn cael effaith isel. Mae terfynau allyriadau sŵn ar gyfer peiriannau ac offer newydd hefyd wedi’u hargymell er mwyn peidio â bod yn uwch na’r lefelau sŵn cefndir presennol.

Gallwch ddarllen yr Asesiad Effaith Sŵn yma.

O ran ansawdd aer, mae ein canlyniadau monitro yn dangos y bydd llygryddion yn ardal y safle yn llawer is na chrynodiadau Safon Ansawdd Aer y DU. Felly ni ragwelir y bydd y datblygiad yn effeithio’n sylweddol ar ansawdd aer lleol.

Gallwch ddarllen yr Asesiad Ansawdd Aer yma.

Dogfennau Eraill

Yn ogystal â’r dogfennau cynllunio a’r adroddiadau a grynhoir uchod, gallwch weld gweddill y dogfennau cynllunio cysylltiedig trwy glicio yma.

Arddangosfa Rithwir

Dweud Wrthym Beth Rydych Chi’n Ei Feddwl

Diolch am roi o’ch amser i ymweld â’n gwefan ymgynghori cymunedol i ddysgu mwy am y cynlluniau ar gyfer Porth Glannau Dyfrdwy.

Cyn cyflwyno cais cynllunio i Gyngor Sir y Fflint, mae’n bwysig ein bod ni’n clywed eich barn.

Gallwch roi eich adborth mewn nifer o ffyrdd:

Mae ein hymgynghoriad cymunedol ar agor tan ddydd Gwener 24 Chwefror. Dylech sicrhau bod eich adborth yn cael ei ddarparu erbyn y dyddiad cau i sicrhau y gall tîm y prosiect ei ystyried cyn i’r cynigion gael eu cyflwyno i Gyngor Sir y Fflint.

Ffurflen adborth

Amdanom Ni

Mae’r cynigion yn cael eu cyflwyno gan Pochin Goodman (Northern Gateway) Ltd, menter ar y cyd rhwng Goodman ac NPL Ltd.

Mae’r fenter ar y cyd yn cyfuno galluoedd a phrofiad byd-eang Goodman â gwybodaeth ac arbenigedd rhanbarthol.

GOODMAN

Mae Goodman yn grŵp eiddo diwydiannol byd-eang arbenigol. Mae’n berchen ar, yn datblygu ac yn rheoli eiddo cynaliadwy o ansawdd uchel sy’n agos at ddefnyddwyr ac sy’n darparu seilwaith hanfodol ar gyfer yr economi ddigidol. Gyda mwy na 400 o eiddo wedi’u lleoli mewn marchnadoedd defnyddwyr allweddol, mae Goodman yn gweithio gydag ystod amrywiol o gwsmeriaid lleol a byd-eang o fewn y diwydiannau e-fasnach, logisteg, manwerthu, nwyddau defnyddwyr, modurol, fferyllol a thechnoleg.

NPL LIMITED (NPLL)

Mae NPLL yn canolbwyntio ar fuddsoddiad tir ac eiddo strategol. Ar hyn o bryd mae’n ymwneud â datblygu a hyrwyddo 600 erw ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr gan ddefnyddio ei arbenigedd lleol i gynhyrchu gwerth ychwanegol, a darparu datblygiadau cynaliadwy o ansawdd uchel ar draws y sectorau cyflogaeth a phreswyl.

Cysylltu â Ni

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth, gallwch gysylltu â’r tîm drwy: